Er mwyn amlygu polisi iaith y Blaid Gomiwnyddol parthed y Gymraeg rydym wedi cyhoeddi gohebiaeth fu'n trin y pwnc. Gellir ei darllen isod.

 
Annwyl Syr/Fadam,
 
Edrychais ar eich hafan heddiw a sylweddolais fod yna bron i ddim cynnwys yn y Gymraeg, a oes yna adran guddiedig sydd rhywle i ddarllenwyr Cymraeg cael gweld? Mae hi'n wrthddywediad braidd, yn tydi, fod y Parti Comiwnyddol yn defnyddio iaith y gelyn ddaru amlyncu Cymru tu fewn i'w gyfdrefn imperialaeth? A dweud y gwir, paham ydach chi'n defnyddio'r Saesneg fel prif iaith eith parti? Drwy ddefnyddio'r Saesneg gan amlaf rydach chi'n rhydu ein hanes ac ein diwylliant gan geisio chwalu asgwrn cefn ein gwlad! Ydach chi'n ceisio ymhlaethu eich neges gan geisio bwysleisio monopoli cyfarthrebiad? Os yr rhain yw'ch credoau felly tydach chi ddim gwell na'r Ceidwadwyr sydd yn mynnu gwagio pobl Cymru o'u iaith. Os ydy'ch credoau chi wir wedi'w buddsoddi mewn hawliau gwerinbobl Cymru i ddefnyyddio'r iaith yn ddyddiol, wedyn pam ydach chi heb manteisio ar hyn a cyhoeddi yn y Gymraeg? Meddwl ydw i erbyn hyn, fod ganddoch chi ddim llwyfan credadwy i gynrychioli anghenion y bobl Cymraeg. Siomedig iawn.
 
Yr Eiddoch yn Gywir,
Dafydd
 
 
Annwyl Dafydd
 
Diolch yn fawr ichi am ymateb i'n gwefan ac am ddechrau trafodaeth sy'n werth ei chynnal. 
 
Mae'r ensyniad fod y Blaid Gomiwnyddol yn wrth-Gymreig neu'n ddi-hid o hawliau'r Cymry Cymraeg yn hollol ddi-sail.
 
* Cefnogodd y Blaid Gomiwnyddol Senedd gyflawn i Gymru er 1948
* Dymuna'r Blaid Gomiwnyddol weld y Gymraeg a'r Saesneg yn cael cydnabyddiaeth statudol fel ieithoedd swyddogol cydradd yng Nghymru.
* Mae'r Gymraeg yn rhan werthfawr o dreftadaeth ddiwylliannol y byd ac mae ei chynnal a'i chadw yn gwrthsefyll y diwylliant imperialaidd Eingl-Americanaidd byd-eang.
* Y Blaid Gomiwnyddol a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd a sefydlodd Cymdeithas Niclas y Glais er mwyn hyrwyddo trafodaeth ar lenyddiaeth a'r celfyddydau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
* Un o weithgareddau pwysicaf ein plaid yw cynnal a chadw y Morning Star, yr unig newyddiadur dyddiol sosialaidd yn yr Iaith Saesneg yn y byd. Mae'n cynnwys Colofn Gymreig reolaidd ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol bydd erthyglau Cymraeg a rhai Saesneg am Gymru yn y papur.
* Cytunwn â'r diweddar Athro Gwyn A. Williams a ddywedodd: 'Os yw Cymru i fyw,rhaid i Gyfalafiaeth farw. Os bydd Cyfalafiaeth fyw rhaid i Gymru farw'. Gosodwn y frwydyr dros barhad y genedl Gymreig a'r iaith Gymraeg yng nghyd-destun y frwydr fyd-eang yn erbyn Imperialaeth, ei anghyfiawnderau dybryd a'i rhyfeloedd di-ddiwedd.
 
Lleiafrif o aelodau'r Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru sy'n medru'r Gymraeg a dyna pam nad yw'n gallu gweithredu mor ddwyieithog ag y dymunai.
 
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymateb at ein hymateb. Gwell fyth, efallai y byddai modd ichi gyfarfod rhai o'n aelodau Cymraeg?
 
Yn ddiffuant
 
Rick Newnham